Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (82)v3 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Cefnogi Myfyrwyr Cymreig - wedi’i ohirio tan 2 Hydref |
4. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ: Fframwaith Gweithredu ar gyfer Byw’n Annibynnol: dogfen ymgynghori a gyhoeddwyd ar 20 Medi (30 munud)
Dogfen Ategol Fframwaith Gweithredu ar gyfer
Byw’n Annibynnol |
5. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Canlyniadau TGAU Saesneg Iaith 2012 (30 munud) |
6. Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau: Cyngor Sir Ynys Môn (30 munud) Dogfen
Ategol http://www.ynysmon.gov.uk/Journals/2012/09/14/adroddiad-comisiynwyr-chwarter-5.pdf |
7. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd: Cynllun llaeth – y wybodaeth ddiweddaraf ar gefnogaeth i’r diwydiant llaeth (30 munud) |
8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio (15 munud) NDM5012 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio, fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin ar 23 Mai 2012 sy’n ymwneud â diwygiadau i Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 12 Mehefin 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
I weld copi o’r Bil ewch i:
Dogfennau'r Bil — Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio 2012-13
— Senedd y DU |
9. Dadl ar Tuag at Ddeddf Gynllunio i Gymru: Adroddiad gan y Grŵp Cynghori Annibynnol (60 munud) NDM5047 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Grwp Cynghori Annibynnol, Tuag at Deddf Gynllunio i Gymru: Sicrhau System Gynllunio Effeithiol. Dogfennau Ategol Gellir gweld y ddogfen Tuag at Deddf Gynllunio i Gymru: Sicrhau System Gynllunio Effeithiol drwy’r linc a ganlyn:
http://cymru.gov.uk/topics/planning/planningresearch/publishedresearch/towardsawelshplanningact/?lang=cy
|
Cyfnod Pleidleisio Dechreuodd yr eitem am
|
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 26 Medi 2012